Blog post -
Mynnwch wisg o ‘Vintage Vision’ a disgleirio yn nawns menter gymdeithasol #CefnogirCyfan
Dyma’r blog diweddaraf gennym sy’n rhan o ymgyrch ‘Cefnogi’r Cyfan’ y Gaeaf, sy’n hyrwyddo rôl – ac yn annog pobl i gefnogi – mentrau cymdeithasol, cydweithfeydd a sefydliadau cymdeithasol eraill Cymru yn arwain at y Nadolig.
Felly, mae’r parti Nadolig ar y gweill ac rydych am wisgo i wneud argraff ar eich holl ffrindiau a’ch cydweithwyr. Ond – nid oes gennych ddim i’w wisgo!
Cyn i chi ruthro’n wyllt i’r siopau mawr i nôl ffrog fach bert fwyaf poblogaidd y tymor, beth am roi cynnig ar siopa yn Vintage Vision, menter gymdeithasol yn Sir Fynwy.
Mae Vintage Vision yn gwerthu cymysgedd hyfryd o ddillad retro a vintage ... unrhyw beth o 1880 i 1980 sy’n glasurol, yn brydferth, yn ffasiynol (eto) neu’n hollol hyfryd. Mae ganddi hefyd ddewis gwych o ddillad vintage cawslyd – perffaith ar gyfer y parti gwisg ffansi! Mae ganddo dair siop, un yn y Fenni, un yng Nghas-gwent ac un ym Mlaenafon. Mae hefyd yn mynd i ffeiriau vintage ac yn eu trefnu.
Dechreuwyd y busnes bedair blynedd yn ôl gan Amanda Peters, Bernadette Kelly a Nicki Meedle. Cawsant eu hysgogi gan y dymuniad i roi ail fywyd i ddillad vintage hyfryd.
Er bod gan siopau elusen traddodiadol reilen o ddillad vintage yn aml, efallai y byddant yn cynnwys nwyddau â brandiau adnabyddedig yn unig, nid ffrogiau cartref sydd wedi goroesi tri deg neu bedwar deg o flynyddoedd. Y dymuniad i sicrhau bod y ffrogiau hyn yn goroesi gwaith sortio’r siopau elusen ac yn cael eu trysori cymaint â ffrogiau masnachol yw un o fwriadau Vintage Vision.
Ond eu hanes sydd wir yn gwneud dillad Vintage Vision yn wahanol – pan fo pobl yn rhoi’r dillad hyn, maent hefyd yn rhoi stori. Efallai bod hon yn ffrog a wisgodd rhywun ar ei dêt cyntaf gyda’r dyn a ddaeth yn ŵr iddi; efallai mai dyma ei ffrog briodas; efallai yr oedd yn wisg a brynwyd ar ôl cynilo am fisoedd. Dyma ddillad sydd wedi cael cariad a gofal.
Fodd bynnag, yr hyn sydd hefyd yn gwneud Vintage Vision yn wahanol i’r siopau dillad elusen arferol yw’r gwaith y mae’n ei gwneud o ran rhoi cyfle i fenywod rhannu eu gwybodaeth, datblygu hyder a sgiliau newydd a chael mynediad i hyfforddiant a phrofiad gwaith. Gwirfoddolwyr yw staff y busnes i gyd ‒ mae tua thri deg o bobl yn rhan o ganfod, trwsio, marchnata a gwerthu’r dillad vintage a retro. Mae unrhyw elw a wneir yn cael ei ail-fuddsoddi yn y busnes i gefnogi hyn. Mae gan Vintage Vision bwyllgor rheoli, ac mae’n gwmni cyfyngedig trwy warant.
Gallwch gefnogi’r gwaith ardderchog a wneir gan Vintage Vision trwy roi unrhyw eitemau hardd sydd gennych yn eich cwpwrdd dillad, neu drwy wirfoddoli. Neu gallech fynd i Vintage Vision i ddewis gwisg ar gyfer parti a fydd nid yn unig yn hollol unigryw, ond bydd ganddi hefyd ei hanes unigryw ei hun.
Mae’r sefydliad yn y blog hwn yn un o nifer y gallwch eu cefnogi. Mae llawer mwy ar gael ar ein Cyfeiriadur Cefnogi’r Cyfan. Nadolig Llawen a ‘phrynwch yn gymdeithasol’Topics
- Economy, Finance
Regions
- Wales