Press release -
Mam o Gaerdydd am rhedeg ras i gefnogi elusen ar ôl iddi gael strôc yn 28
Mae Melissa Broad o Greigiau am gymryd rhan yn Ras Adduned y Gymdeithas Strôc, a chaiff ei chynnal ym Mharc Bute ar 10 Mawrth 2019.
Meddai Melissa: "Rwy'n falch fy mod yn rhedeg yn y Ras Adduned fel goroeswr strôc, ar ôl profi'r sioc o gael strôc fy hun: nid oeddwn yn gallu siarad, darllen nag ysgrifennu.
"Fe ddigwyddodd ar ôl i fy mab gael ei eni. Roeddwn wedi cael cur pen drwg iawn, ond dywedodd fy meddyg na allai fod yn unrhyw beth difrifol i berson o fy oed. Ond erbyn diwedd y dydd, nid oeddwn yn gallu siarad a chefais ambiwlans yn syth i'r ysbyty lle dangosodd sgan fy mod wedi cael strôc.
"Pan gyrhaeddais adref eto, daeth cydlynydd o'r Gymdeithas Strôc i ymweld â ni i rannu cyngor ar ba gefnogaeth oedd ar gael, gan gynnwys i fy ngŵr, fel gofalwr, a oedd mor ddefnyddiol i ni ar adeg mor anodd"
Dywedwyd wrth Melissa na allai hi gael mwy o blant ar ôl y strôc. Ond gyda chefnogaeth feddygol, aeth ymlaen i gael dwy ferch.
Ychwanegodd Melissa: "Roedd y syniad o beidio â gallu siarad â fo, neu ganu caneuon i'm mab, yn ei gwneud hi'n amser emosiynol iawn i mi. Ond ddaru ni gael trwyddo.
"Mae rhedeg wedi bod yn ffordd bwysig i mi ddod yn ffit ar ôl fy strôc. Fe wnes i Hanner Marathon Caerdydd y llynedd, a dwi eisiau parhau yn 2019.”
“ Yn Ras Adduned llynedd, roedd yna awyrgylch mor hyfryd i'r holl rhedwyr, joggers a cherddwyr ym Mharc Bute. Mae'n wych helpu i wneud gwahaniaeth trwy godi arian ac ymwybyddiaeth o strôc. Mae fy mab eisiau ymuno â ni cyn gynted ag y bydd yn ddigon hen hefyd! "
Dywedodd Carol Bott, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Strôc yng Nghymru: "Mae’r Ras Adduned yn union hynny - penderfyniad ar gyfer y Flwyddyn Newydd sydd wir yn cyfri. Mae'n ddigwyddiad delfrydol i bobl yng Nghaerdydd sydd am wneud rhywbeth llawn hwyl gyda'i gilydd, tra'n dod yn fwy egnïol yn 2019. Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at gymryd rhan yn nigwyddiad Caerdydd fy hun.
"Yng Nghymru mae oddeutu 7,400 o bobl yn cael strôc bob blwyddyn. Mae ein hymchwil ddiweddaraf (i) yn dangos, trwy hyfforddi a chymryd rhan mewn Ras Adduned, eich bod yn helpu i ostwng eich risg o strôc. Mae'r arian sy’n cael ei godi gan bob rhedwr yn galluogi i ni gyrraedd mwy o oroeswyr strôc a'u teuluoedd i gynnig y gefnogaeth y gall fod angen iddynt ailadeiladu eu bywydau. Ar ran yr holl oroeswyr strôc a'u cyfeillion yr ydym yn eu cefnogi bob blwyddyn, rwyf am ddweud diolch. "
Mae ymchwil an yr elusen yn dangos y gellid atal llawer o strôc pe bai pobl yn gwneud rhai newidiadau syml o ran eu ffordd o fyw. Un ffordd i leihau'ch risg o strôc yw cychwyn gweithgaredd corfforol. Gall monitro (a rheoli) eich pwysedd gwaed, bwyta deiet mwy cytbwys a stopio ysmygu hefyd leihau eich risg o strôc yn sylweddol. Bydd yr arian a godir trwy'r Ras Adduned yng Nghaerdydd yn helpu'r Gymdeithas Strôc i ariannu ymchwil hanfodol a chefnogi pobl wedi eu heffeithio arnynt gan strôc yng Nghymru.
Y llynedd, cododd y cyfranogwyr fwy na £ 633,000 ar gyfer y Gymdeithas Strôc. Eleni, mae'r elusen yn gobeithio codi dros £ 850,000 i barhau i gefnogi goroeswyr strôc a'u teuluoedd ledled y DU.
Y ffi mynediad yw £ 16 yn unig. Mae'r holl rhedwyr yn derbyn crys-t a medal technegol. Am ragor o wybodaeth i arwyddo fyny neu wirfoddoli yn y Ras Adduned, ewch i www.resolutionrun.org.uk e-bost resolution@stroke.org.uk neu ffoniwch 0300 330 0740.
Topics
Trawiad ar yr ymennydd yw strôc sydd yn digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i’r ymennydd yn cael ei atal, unai oherwydd clot neu waedu. Pob blwyddyn, bydd o gwmpas 7,400 o bobl yng Nghymru’n cael strôc ac mae’r Gymdeithas Strôc yn amcangyfrif bod bron i 66,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru.
Elusen yw’r Gymdeithas Strôc. Credwn ym mywyd ar ôl strôc a gyda’n gilydd gallwn drechu strôc. Gweithiwn yn uniongyrchol gyda goroeswyr strôc a’u teuluoedd a gofalwyr, gyda gweithwyr gofal iechyd a chymdeithasol a gyda gwyddonwyr ac ymchwilwyr. Ymgyrchwn i wella gofal a chefnogaeth strôc a chefnogwn bobl i wella yn y ffordd orau posib. Mae’r Llinell Gymorth Strôc (0303 303 3100) yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth ar strôc. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www.stroke.org.uk