Press release -
Mae goroeswr strôc o Wynedd yn dweud 'Rwy'n fwy na fy strôc'
Roedd Heather Callow, 57 oed o Gerlan, ger Bethesda, yn 52 oed pan gafodd strôc yn 2013, a gadawodd hi gyda thrafferth cerdded.
Dywedodd Heather:
"Gall strôc droi eich bywyd ar ei ben yn syth.
"Ar ddiwrnod fy strôc ym mis Hydref 2013, roeddwn i jest wedi cael fy mrecwast pan nad oeddwn yn gallu sefyll aac ni allwn symud nes i'm partner ddod o hyd i mi ychydig oriau'n ddiweddarach.
"Roeddwn wedi bod yn weithgar iawn, felly roedd hi'n sioc mor fawr fy mod i angen help i wneud popeth – codi o’r gwely a gwisgo, gwneud bwyd a gadael y tŷ ar ben fy hun.
"Dwi ddim hyd yn oed yn cofio y Nadolig yn dilyn fy strôc, felly eleni byddaf yn gwneud y gorau o'r amser gyda fy nheulu a'm ffrindiau."
Mae tua 7,400 o bobl yn cael strôc yng Nghymru bob blwyddyn. Mae strôc yn parhau i fod yn brif achos anabledd ac mae mwy na 80 y cant o oroeswyr strôc angen cymorth gyda bywyd bob dydd, megis cerdded, golchi, bwyta a chyfathrebu.
Mae apêl Nadolig ‘Rwyf yn fwy na fyw strôc’ yn ceisio codi arian ar gyfer y Gymdeithas Strôc fel y gall yr elusen wwbarhau i helpu mwy o oroeswyr strôc gyda'u hadferiad.
Roedd yn rhaid i Heather gymryd absenoldeb o’i gwaith fel gweinyddes i Brifysgol Bangor am flwyddyn. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cafodd gefnogaeth wych gan Glwb Strôc Môn ac Arfon fel rhan o’r Gymdeithas Strôc, ac mae hi bellach yn drysorydd.
Dywedodd Heather:
"Roedd cefnogaeth y grŵp mor ddefnyddiol, yn enwedig yn y dyddiau cynnar. Fe allwch chi deimlo'nysig iawn ar ôl strôc, felly roedd hi'n hynod ddefnyddiol i siarad â phobl a oedd wedi cael profiadau tebyg.
"Rwyf hefyd yn mynychu'r caffis strôc yn Llangefni a Bangor pan alla i. Os ydw i'n cael diwrnod gwael, maen nhw'n fy helpu i aros yn gadarnhaol ac rwy'n gobeithio y gallwn weithiau helpu aelodau eraill yn yr un modd.
"Dwi wedi cael fy ngadael â gwendid mewn un fraich ac rwy'n blino'n gyflym iawn. Mae coginio a gwisgo yn frwydr ac roedd yn rhaid i mi ddysgu gwneud llawer o bethau gyda’r un-law, felly mae'n wych siarad â phobl eraill sy'n deall. "
Mae Heather hefyd wedi cael ei ysbrydoli i fynd yn ôl i'r gampfa, a hyd yn oed gymryd ran yn Râs Adduned 5k y Gymdeithas Strôc 2018.
Cynhelir ras 2019 yng Nghoedwig Niwbwrch ar 24 Mawrth.
Meddai Carol Bott, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Strôc yng Nghymru: "I lawer o bobl sydd wedi goroesi strôc, mae ailadeiladu eu bywydau ar ôl strôc yn broses hir a heriol. Mae strôc nid yn unig yn cyflwyno heriau corfforol, ond gall y ffordd y mae'n newid bywydau pobl a'u cynlluniau ar gyfer eu dyfodol mor sydyn hefyd achosi teimladau o iselder, pryder ac anobaith. Fodd bynnag, rydym wedi gweld gyda’r cymorth iawn y gellir helpu llawer o bobl i fyw bywydau mwy cyflawn yn dilyn eu strôc.
"Fel yr unig elusen yng Nghymru sy'n gweithio i gefnogi'r rhai sydd wedi eu heffeithio arnynt gan strôc, rydym yn helpu i fynd i'r afael ag anghenion emosiynol, ymarferol a chorfforol goroeswyr strôc a'u teuluoedd fel y gallant gyflawni'r bywyd gorau posibl. Fodd bynnag, nid ydym eto'n gallu cyrraedd pawb sydd angen ein help a dyna pam mae ein hysbysiad Nadolig, ‘Rwyf yn fwy na’m strôc', yn codi arian hanfodol er mwyn i ni allu bod yno i fwy o bobl fel Heather"
I ddarganfod mwy am y cymorth a'r gefnogaeth mae'r Gymdeithas Strôc yn ei gynnig ac i wneud ymroddiad i’n hapêl Nadolig ewch i: stroke.org.uk/iammore.