Press release -
Mae goroeswr strôc o Geredigion yn dweud 'Rwy'n fwy na fy strôc'.
Cafodd Clive Dicks, sy'n 66 oed ac o Bontrhydfendigaid, strôc ym mis Chwefror eleni, a gadawodd ef heb y gallu i siarad na symud ei ochr dde.
Meddai Clive:
"Bydd cael gwario Nadolig gyda'm teulu mor bwysig i mi; Rwy'n falch o fod yn fyw.
"Wrth edrych yn ôl at ddiwrnod fy strôc, nid oeddwn yn meddwl bod unrhyw beth o'i le gyda mi. Ond yn ffodus gallai fy ŵyr weld bod rhywbeth yn bod. Fe gysylltodd â nyrs strôc sy'n byw yn fy mhentref a dywedodd wrtha’i fynd i'r ysbyty, a gadawodd iddynt wybod fy mod ar y ffordd. Ar y daith i'r ysbyty, fe gollais yr gallu i siarad ac erbyn I mi gyrraedd, nid oeddwn yn gallu dweud dim o gwbl.
"Roeddwn i yn yr ysbyty am bum wythnos ac fe gymerodd mwy o amseri i adennill fy ngallu i siarad."
Mae tua 7,400 o bobl yn cael strôc yng Nghymru bob blwyddyn. Mae strôc yn parhau i fod yn brif achos anabledd ac mae mwy na 80 y cant o oroeswyr strôc angen cymorth gyda bywyd bob dydd, megis cerdded, golchi, bwyta a chyfathrebu. Mae apêl Nadolig ‘Rwyf yn fwy na fy strôc’ yn ceisio codi arian ar gyfer y Gymdeithas Strôc fel y gall yr elusen barhau i helpu mwy o oroeswyr strôc gyda'u hadferiad.
Ar ôl dychwelyd adref, daeth un o gydlynwyr y Gymdeithas Strôc i gwrdd a Clive a chynnigodd cymorth hanfodol iddo, gan gynnwys ei helpu i gael cymorth ariannol ar gyfer yr anableddau a achoswyd gan ei strôc.
Meddai Clive:
"Roedd fy swydd fel adeiladwr yn gorfforol ac roeddwn i'n arfer bod yn ffit, felly roedd yn sioc mor fawr i beidio â gallu defnyddio fy ochr dde, yn enwedig i ysgrifennu. Ond mae'n araf yn gwella. Un ffordd rwy'n gwneud yn siŵr o hynny yw trwy ysgubo'r llawr bob dydd i gryfhau fy mraich dde, ac rwyf wedi dysgu defnyddio testun rhagfynegol ar fy ffôn gyda'm llaw chwith.
"Mae gen i ffrind a gafodd strôc ddwy flynedd yn ôl, a gall chwarae ei gitâr eto yn awr. Felly erbyn y Nadolig nesaf, fy mwriad yw bod yn ôl yn chwarae fy ngitâr I hefyd!"
Meddai Carol Bott, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Strôc yng Nghymru: "I lawer o bobl sydd wedi goroesi strôc, mae ailadeiladu eu bywydau ar ôl strôc yn broses hir a heriol. Mae strôc nid yn unig yn cyflwyno heriau corfforol, ond gall y ffordd y mae'n newid bywydau pobl a'u cynlluniau ar gyfer eu dyfodol mor sydym hefyd achosi teimladau o iselder, pryder ac anobaith. Fodd bynnag, rydym wedi gweld gyda’r cymorth iawn y gellir helpu llawer o bobl i fyw bywydau mwy cyflawn yn dilyn eu strôc.
"Fel yr unig elusen yng Nghymru sy'n gweithio i gefnogi'r rhai sydd wedi eu heffeithio arnynt gan strôc, rydym yn helpu i fynd i'r afael ag anghenion emosiynol, ymarferol a chorfforol goroeswyr strôc a'u teuluoedd fel y gallant gyflawni'r bywyd gorau posibl. Fodd bynnag, nid ydym eto'n gallu cyrraedd pawb sydd angen ein help a dyna pam mae ein Hysbysiad Nadolig, ‘Rwyf yn fwy na Fy Strôc', yn codi arian hanfodol er mwyn i ni allu bod yno i fwy o bobl fel Clive"
I ddarganfod mwy am y cymorth a'r gefnogaeth mae'r Gymdeithas Strôc yn ei gynnig ac i wneud ymroddiad i’n hapêl Nadolig ewch i: stroke.org.uk/iammore.
Topics
Trawiad ar yr ymennydd yw strôc sydd yn digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i’r ymennydd yn cael ei atal, unai oherwydd clot neu waedu. Pob blwyddyn, bydd o gwmpas 7,400 o bobl yng Nghymru’n cael strôc ac mae’r Gymdeithas Strôc yn amcangyfrif bod bron i 66,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru.
Elusen yw’r Gymdeithas Strôc. Credwn ym mywyd ar ôl strôc a gyda’n gilydd gallwn drechu strôc. Gweithiwn yn uniongyrchol gyda goroeswyr strôc a’u teuluoedd a gofalwyr, gyda gweithwyr gofal iechyd a chymdeithasol a gyda gwyddonwyr ac ymchwilwyr. Ymgyrchwn i wella gofal a chefnogaeth strôc a chefnogwn bobl i wella yn y ffordd orau posib. Mae’r Llinell Gymorth Strôc (0303 303 3100) yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth ar strôc. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www.stroke.org.uk