Press release -
Mae goroeswr strôc o Bont-y-pwl yn dweud 'Rwy'n fwy na fy strôc'
Roedd Ness yn 42 oed ar y pryd ac am y ddwy flynedd wedyn, nes iddi ddod o hyd i gefnogaeth drwy'r Gymdeithas Strôc, roedd Nadolig yn amser anodd.
Dywedodd Ness: "Ar ôl fy strôc, roeddwn i'n ofni adeg y Nadolig oherwydd roeddwn yn poeni y byddaf yn cael un arall. Ond mae cwrdd â goroeswyr eraill trwy'r Gymdeithas Strôc wedi fy helpu’n fawr ac erbyn hyn mae Nadolig yn amser gwych o'r flwyddyn unwaith eto. Mae’r addurniadau wedi bod i fyny ers 6 Tachwedd ac rwy'n edrych ymlaen at ddiwrnod hyfryd gyda'r teulu."
Mae tua 7,400 o bobl yn cael strôc yng Nghymru bob blwyddyn. Mae strôc yn parhau i fod yn brif achos anabledd ac mae mwy na 80 y cant o oroeswyr strôc angen cymorth gyda bywyd bob dydd, megis cerdded, golchi, bwyta a chyfathrebu.
Dywedodd Ness, a oedd wedi bod yn gweithio fel dirprwy-matron mewn cartref nyrsio pan cafodd ei tharro gan y strôc a’i danfon i’r ysbyty.
"Cefais i ddau gwaedlif ymennydd a strôc. Ond er fy mod wedi gofalu am oroeswyr strôc fel rhan o'm swydd, mae'n syndod faint nad ydych chi'n sylweddoli am sut mae’n gallu eich effeithio nes eich bod wedi cael un eich hun.
"Doeddwn i ddim yn gallu plygu fy nghen-glin o gwbl, na fy mraich chwaith. Ni allaf siarad ac roedd fy ngolwg wedi mynd yn aneglur. Fodd bynnag, y peth cyntaf yr oeddwn yn benderfynol o'i wneud oedd peidio gorfod cael lifft i fynd yn ôl i'r gwely - roeddwn mor hapus pan roeddwn yn gallu sefyll gyda chymorth, ac eistedd ar y gwely fy hun."
Ar ôl misoedd o deimlo'n unig, daeth Ness ar draws grŵp yng Nghwmbran sy’n ran o’r Gymdeithas Strôc ac yn rhoi’r cyfle i bobl wedi eu heffeithio gan strôc i gwrdd i gymdeithasu a chefnogi ei gilydd. Ymunodd Ness â chôr y clwb, ‘Strike a Chord’ Cwmbran, a chafodd ei sefydlu gan fod canu yn helpu goroeswyr i oresgyn anawsterau cyfathrebu.
Dywedodd Ness "Roeddwn bob amser wedi canu ers yr ysgol, felly bu'n wych cael y cyfle i wneud hynny gyda phobl eraill sy'n deall sut rydych chi'n teimlo ar ôl strôc. Ni all un aelod siarad llawer o gwbl oherwydd ei strôc, ond mae'n gallu canu'n hyfryd.
“Mae cael y gefnogaeth i fy helpu i ganu a mwynhau'r Nadolig unwaith eto wedi gwneud i mi deimlo fy mod i hefyd yn fwy na fy strôc "
Meddai Carol Bott, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Strôc yng Nghymru: "I lawer o bobl sydd wedi goroesi strôc, mae ailadeiladu eu bywydau ar ôl strôc yn broses hir a heriol. Mae strôc nid yn unig yn cyflwyno heriau corfforol, ond gall y ffordd y mae'n newid bywydau pobl a'u cynlluniau ar gyfer eu dyfodol mor sydyn hefyd achosi teimladau o iselder, pryder ac anobaith. Fodd bynnag, rydym wedi gweld gyda’r cymorth iawn y gellir helpu llawer o bobl i fyw bywydau mwy cyflawn yn dilyn eu strôc.
"Fel yr unig elusen yng Nghymru sy'n gweithio i gefnogi'r rhai sydd wedi eu heffeithio arnynt gan strôc, rydym yn helpu i fynd i'r afael ag anghenion emosiynol, ymarferol a chorfforol goroeswyr strôc a'u teuluoedd fel y gallant gyflawni'r bywyd gorau posibl. Fodd bynnag, nid ydym eto'n gallu cyrraedd pawb sydd angen ein help a dyna pam mae ein hysbysiad Nadolig, ‘Rwyf yn fwy na’m strôc', yn codi arian hanfodol er mwyn i ni allu bod yno i fwy o bobl fel Ness"
I ddarganfod mwy am y cymorth a'r gefnogaeth mae'r Gymdeithas Strôc yn ei gynnig ac i wneud ymroddiad i’n hapêl Nadolig ewch i: stroke.org.uk/iammore.
Topics
Trawiad ar yr ymennydd yw strôc sydd yn digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i’r ymennydd yn cael ei atal, unai oherwydd clot neu waedu. Pob blwyddyn, bydd o gwmpas 7,400 o bobl yng Nghymru’n cael strôc ac mae’r Gymdeithas Strôc yn amcangyfrif bod bron i 66,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru.
Elusen yw’r Gymdeithas Strôc. Credwn ym mywyd ar ôl strôc a gyda’n gilydd gallwn drechu strôc. Gweithiwn yn uniongyrchol gyda goroeswyr strôc a’u teuluoedd a gofalwyr, gyda gweithwyr gofal iechyd a chymdeithasol a gyda gwyddonwyr ac ymchwilwyr. Ymgyrchwn i wella gofal a chefnogaeth strôc a chefnogwn bobl i wella yn y ffordd orau posib. Mae’r Llinell Gymorth Strôc (0303 303 3100) yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth ar strôc. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www.stroke.org.uk