Press release -
Dywed goroeswr strôc y Fenni, 'Rwy'n fwy na fy strôc'.
Roedd Alasdair Kirkpatrick, 54 oed o Lanfoist Wharf, yn ffit ac yn iach ac yn mwynhau rhwyfo, cyn i strôc yn 2016 olygu na allai gerdded.
Dywedodd Alasdair:
"Ar ddiwrnod fy strôc, roeddwn i wedi bod allan yn rhwyfo pan ddechreuais i deimlo'n sâl. Yn ffodus fe welodd fy ngwraig y symptomau ar unwaith a galwodd ambiwlans.
"Roeddwn yn yr ysbyty am fwy na 20 wythnos. Roedd rhaid tynnu rhan o'm penglog a'i gadw'n fyw yn fy stumog, tra bod meddygon yn aros am y chwydd yn fy ymennydd i fynd i lawr.
“Nid oeddwn yn gallu defnyddio ochr chwith fy nghorff,felly roedd yn rhaid addasu fy nghartref i gyd."
Mae tua 7,400 o strôc yng Nghymru bob blwyddyn. Mae tua 7,400 o bobl yn cael strôc yng Nghymru bob blwyddyn. Mae strôc yn parhau i fod yn brif achos anabledd ac mae mwy na 80 y cant o oroeswyr strôc angen cymorth gyda bywyd bob dydd, megis cerdded, golchi, bwyta a chyfathrebu.
Mae apêl Nadolig ‘Rwyf yn fwy na fy strôc’ yn ceisio codi arian ar gyfer y Gymdeithas Strôc fel y gall yr elusen barhau i helpu mwy o oroeswyr strôc gyda'u hadferiad.
Ar ôl gadael yr ysbyty, roedd Alasdair yn benderfynol o adennill ei annibyniaeth. Dim ond blwyddyn yn ddiweddarach aeth ar daith beicio tandem 110 milltir o Gaerdydd i Ddinbych-y-pysgod i gefnogi'r Gymdeithas Strôc.
Ynghyd â'i ffrindiau o Glwb rhwyfo Trefynwy, mae wedi codi dros £ 10,000 ar gyfer yr elusen ers hynny.
Ychwanegodd Alasdair:
"Rwy'n bwriadu gwneud mwy o weithgareddau codi arian yn 2019, ond yn gyntaf fy nôd yw gallu cerdded heb ffon erbyn y Nadolig.
"Mae cael symud yn iawn eto ar ôl strôc yn rhwystredig. Ond nid oeddent yn disgwyl i mi fyw, a wedyn ddaru nhw ddweud y byddai sefyll yn her. Yr hyn rwy'n gwybod nawr yw na allwch adael i strôc eich atal rhag byw eich bywyd. "
Meddai Carol Bott, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Strôc yng Nghymru: "I lawer o bobl sydd wedi goroesi strôc, mae ailadeiladu eu bywydau ar ôl strôc yn broses hir a heriol. Mae strôc nid yn unig yn cyflwyno heriau corfforol, ond gall y ffordd y mae'n newid bywydau pobl a'u cynlluniau ar gyfer eu dyfodol mor sydyn hefyd achosi teimladau o iselder, pryder ac anobaith. Fodd bynnag, rydym wedi gweld gyda’r cymorth iawn y gellir helpu llawer o bobl i fyw bywydau mwy cyflawn yn dilyn eu strôc.
"Fel yr unig elusen yng Nghymru sy'n gweithio i gefnogi'r rhai sydd wedi eu heffeithio arnynt gan strôc, rydym yn helpu i fynd i'r afael ag anghenion emosiynol, ymarferol a chorfforol goroeswyr strôc a'u teuluoedd fel y gallant gyflawni'r bywyd gorau posibl. Fodd bynnag, nid ydym eto'n gallu cyrraedd pawb sydd angen ein help a dyna pam mae ein hysbysiad Nadolig, ‘Rwyf yn fwy na’m strôc', yn codi arian hanfodol er mwyn i ni allu bod yno i fwy o bobl fel Alasdair"
I ddarganfod mwy am y cymorth a'r gwefnogaeth mae'r Gymdeithas Strôc yn ei gynnig ac i wneud ymroddiad i’n hapêl Nadolig ewch i: stroke.org.uk/iammore.
Topics
Trawiad ar yr ymennydd yw strôc sydd yn digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i’r ymennydd yn cael ei atal, unai oherwydd clot neu waedu. Pob blwyddyn, bydd o gwmpas 7,400 o bobl yng Nghymru’n cael strôc ac mae’r Gymdeithas Strôc yn amcangyfrif bod bron i 66,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru.
Elusen yw’r Gymdeithas Strôc. Credwn ym mywyd ar ôl strôc a gyda’n gilydd gallwn drechu strôc. Gweithiwn yn uniongyrchol gyda goroeswyr strôc a’u teuluoedd a gofalwyr, gyda gweithwyr gofal iechyd a chymdeithasol a gyda gwyddonwyr ac ymchwilwyr. Ymgyrchwn i wella gofal a chefnogaeth strôc a chefnogwn bobl i wella yn y ffordd orau posib. Mae’r Llinell Gymorth Strôc (0303 303 3100) yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth ar strôc. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www.stroke.org.uk