Press release -
Dywed goroeswr strôc o Gaerffili, 'Rwyf yn fwy na fy strôc'.
Roedd Lauren Watson, 28 oed, yn 25 pan gafodd strôc a newidiodd ei bywyd yn llwyr.
Dywedodd Lauren:
"Gyrrodd fy mhartner ar y pryd a fi i'r ysbyty pan gefais y strôc. Roedd fy nhad wedi cael strôc hefyd ac felly roedd yn adnabod yr arwyddion.
"Fodd bynnag, nid oedd y staff yn yr ysbyty yn credu y gallai fod yn strôc mewn rhywun oedd dim ond yn 25, a ‘mond dyfalbarhad fy nghariad a wnaeth iddynt roi sgan i mi.
“Pan wnes i ddeffro eto, yr unig beth yr oeddwn yn gallu ei ddweud oedd 'yeah'. Cefais fy rhyddhau o'r ysbyty ychydig cyn Nadolig 2015, ond doeddwn i ddim yn teimlo yn Nadoligaidd o gwbl. Roeddwn i'n teimlo nad oeddwn i fod yma ac fe gymerodd chwe mis i mi ddelio â'r ffaith fy mod wedi cael strôc."
Mae tua 7,400 o bobl yn cael strôc yng Nghymru bob blwyddyn. Mae strôc yn parhau i fod yn brif achos anabledd ac mae mwy na 80 y cant o oroeswyr strôc angen cymorth gyda bywyd bob dydd, megis cerdded, golchi, bwyta a chyfathrebu.
Mae apêl Nadolig ‘Rwyf yn fwy na fy strôc’ yn ceisio codi arian ar gyfer y Gymdeithas Strôc fel y gall yr elusen barhau i helpu mwy o oroeswyr strôc gyda'u hadferiad.
Ymunodd Lauren a'i thad â Grŵp Cefnogi Strôc y Gymdeithas Strôc yng Nghwmbrân.
Dywedodd Lauren:
"Fi oedd y person ieuengaf yn y grŵp ond roedd hi mor dda i gwrdd â phobl eraill oedd yn deall sut roeddwn i'n teimlo. Ar ôl treulio amser gyda nhw, fy nghyngor i unrhyw oroeswr strôc arall fyddai cadw ati. Gall fod yn araf, ond yn y diwedd mae'ch gwaith yn arwain at wellhad.
"Roeddwn i'n benderfynol o fod yn ffit, felly ar ôl bron i ddwy flynedd o waith caled, roeddwn yn gallu rhedeg hanner marathon gyda fy nhad, a Ras Adduned yr elusen hefyd, er mwyn codi arian ar gyfer y Gymdeithas Strôc.
"Mae dal gennyf wendid yn fy llaw ac mae’n rhaid imi ganolbwyntio ar bethau bach yn fwy. Ond dwi'n ôl yn y gwaith fel cynorthwyydd dosbarth ac wedi prynu tŷ newydd. Rwy'n mwynhau dewis fy addurniadau Nadolig newydd ac rwyf yn fwy penderfynol nag erioed i fwynhau'r gwyliau.”
Meddai Carol Bott, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Strôc yng Nghymru: "I lawer o bobl sydd wedi goroesi strôc, mae ailadeiladu eu bywydau ar ôl strôc yn broses hir a heriol. Mae strôc nid yn unig yn cyflwyno heriau corfforol, ond gall y ffordd y mae'n newid bywydau pobl a'u cynlluniau ar gyfer eu dyfodol mor sydyn hefyd achosi teimladau o iselder, pryder ac anobaith. Fodd bynnag, rydym wedi gweld gyda’r cymorth iawn y gellir helpu llawer o bobl i fyw bywydau mwy cyflawn yn dilyn eu strôc.
"Fel yr unig elusen yng Nghymru sy'n gweithio i gefnogi'r rhai sydd wedi eu heffeithio arnynt gan strôc, rydym yn helpu i fynd i'r afael ag anghenion emosiynol, ymarferol a chorfforol goroeswyr strôc a'u teuluoedd fel y gallant gyflawni'r bywyd gorau posibl. Fodd bynnag, nid ydym eto'n gallu cyrraedd pawb sydd angen ein help a dyna pam mae ein hysbysiad Nadolig, ‘Rwyf yn fwy na’m strôc', yn codi arian hanfodol er mwyn i ni allu bod yno i fwy o bobl fel Lauren"
I ddarganfod mwy am y cymorth a'r gefnogaeth mae'r Gymdeithas Strôc yn ei gynnig ac i wneud ymroddiad i’n hapêl Nadolig ewch i: stroke.org.uk/iammore.
Topics
Trawiad ar yr ymennydd yw strôc sydd yn digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i’r ymennydd yn cael ei atal, unai oherwydd clot neu waedu. Pob blwyddyn, bydd o gwmpas 7,400 o bobl yng Nghymru’n cael strôc ac mae’r Gymdeithas Strôc yn amcangyfrif bod bron i 66,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru.
Elusen yw’r Gymdeithas Strôc. Credwn ym mywyd ar ôl strôc a gyda’n gilydd gallwn drechu strôc. Gweithiwn yn uniongyrchol gyda goroeswyr strôc a’u teuluoedd a gofalwyr, gyda gweithwyr gofal iechyd a chymdeithasol a gyda gwyddonwyr ac ymchwilwyr. Ymgyrchwn i wella gofal a chefnogaeth strôc a chefnogwn bobl i wella yn y ffordd orau posib. Mae’r Llinell Gymorth Strôc (0303 303 3100) yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth ar strôc. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www.stroke.org.uk