Press release -
Anrhydedd Frenhinol i oroeswr strôc o Gaerdydd
Roedd Annabel Jones, sydd bellach yn 27 mlwydd oed ac yn byw yn Ffynnon Taf, yn eistedd wrth ei desg yn y gwaith pan gafodd strôc.
Yn dilyn hyn, mae Annabel wedi cynnig ei hamser i wirfoddoli i'r Gymdeithas Strôc; gan godi dros £60,000 a gwirfoddoli fel Llysgennad, gan rannu ei phrofiad personol i ddangos bod yna fywyd ar ôl strôc.
Meddai Annabel:
"Pan gafais y strôc, ni chefais unrhyw rybudd. Yr oedd fel pe bai llinell fertigol berffaith wedi cael ei dynnu'n sydyn dros fy ngolwg ac ni allwn weld unrhyw beth ar yr ochr chwith. Roedd yn teimlo fel fy mod wedi cael fy nharo ar gefn fy mhen a roeddwn i mewn poen ofnadwy."
Treuliodd Annabel ychydig ddyddiau yn yr ysbyty ac er bod ei golwg wedi gwella, daeth yn ymwybodol ei bod yn wynebu heriau emosiynol - rhywbeth na chafodd ei rybuddio amdano.
Meddai Annabel:
"Ddaru’r ysbyty fy nghyfeirio i'r Gymdeithas Strôc a anfonodd gydlynydd cymunedol i fy nghartref - ac roedd hi'n anadl o awyr iach. Atebodd fy nghwestiynau a rhoddodd lawer o wybodaeth i mi, gan gynnwys taflen ar iselder yn dilyn strôc. Fe wnes i edrych trwy'r symptomau a gweld fy mod wedi profi’r rhan fwyaf ohonynt."
Yn dilyn blwyddyn o sesiynau cynghori gyda seicolegydd wedi ei hariannu gan y Gymdeithas Strôc a chefnogaeth gan y cydlynydd cymunedol, teimlai Annabel yn gryfach a gallai symud ymlaen â bywyd yn feddyliol.
Meddai Annabel:
"Rwy'n cydnabod fy mod i'n lwcus; Cefais y gefnogaeth yr oeddwn ei angen oherwydd rwy'n byw yng Nghaerdydd. Yr wyf yn poeni am bobl eraill, yn enwedig y rhai o’r ardaloedd gwledig, na fydd yn cael y cymorth, oherwydd yr hwyaf mae effeithiau strôc yn mynd heb eu trin, y gwaetha y mae'n gallu bod i oroeswr.
."Rwyf am i bawb sydd wedi eu heffeithio gan strôc wybod y gall bywyd fod cystal wedyn, os nad gwell, os cewch y gefnogaeth cywir. Nid yw'n wendid i ofyn am help - mae goroeswr strôc yn haeddu bywyd ar ôl strôc."
Fel Llysgennad y Gymdeithas Strôc, mae Annabel wedi rhannu ei phrofiadau personol gyda myfyrwyr mewn prifysgolion, mewn digwyddiadau corfforaethol ac yng Ngrŵp Trawsbleidiol ar Strôc y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae hi a'i ffrindiau hefyd wedi codi mwy na £60.000 i’r Gymdeithas Strôc, trwy ymgymryd â hanner marathon a theithiau cerdded ‘Camu Allan Dros Strôc’.
Meddai Carol Bott, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Strôc yng Nghymru:
"Mae Annabel wir yn haeddu'r anrhydedd hon. Mae ei gwaith, wrth godi arian ac wrth rannu ei phrofiad o strôc gyda'r rhai sydd â'r gallu i helpu gwella triniaeth, wedi bod o werth mawr i ni.
"Mae Annabel yn profi bod yna fywyd ar ôl strôc."
Enwebwyd Annabel am yr MBE gan ei chyflogwyr, Banc Barclays PLC, sydd wedi ei chefnogi trwy ei hadferiad.
Meddai Christopher Wood, Prif Swyddog Gweithredol Partneriaid Cyllid Barclays:
"Rydym wrth ein bodd dros Annabel. Mae ei angerdd wedi ysbrydoli ei chydweithwyr i ddod yn fwy ymwybodol a mwy gweithgar, ac mae hi'n dangos beth yw’n ei olygu i ddod a'r cyfan o'i hun i’r gwaith, sy'n rhywbeth yr ydym am i bawb yn Barclays deimlo'n gyfforddus i’w wneud. Mae hi'n enghraifft wych o werthoedd Barclays - llongyfarchiadau!"
Bydd Annabel yn derbyn ei anrhydedd yn 2019.
I ddarganfod mwy am yr hyn y mae'r Gymdeithas Strôc yng Nghymru yn ei gynnig, ffoniwch 02920 524400, e-bostiwch info.cymru@stroke.org.uk neu ewch i www.stroke.org.uk/wales
Related links
Topics
Categories
Trawiad ar yr ymennydd yw strôc sydd yn digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i’r ymennydd yn cael ei atal, unai oherwydd clot neu waedu. Pob blwyddyn, bydd o gwmpas 7,400 o bobl yng Nghymru’n cael strôc ac mae’r Gymdeithas Strôc yn amcangyfrif bod bron i 66,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru.
Elusen yw’r Gymdeithas Strôc. Credwn ym mywyd ar ôl strôc a gyda’n gilydd gallwn drechu strôc. Gweithiwn yn uniongyrchol gyda goroeswyr strôc a’u teuluoedd a gofalwyr, gyda gweithwyr gofal iechyd a chymdeithasol a gyda gwyddonwyr ac ymchwilwyr. Ymgyrchwn i wella gofal a chefnogaeth strôc a chefnogwn bobl i wella yn y ffordd orau posib. Mae’r Llinell Gymorth Strôc (0303 303 3100) yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth ar strôc. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www.stroke.org.uk