News -
Y Gymdeithas Strôc yn croesawu gwariant ar ofal critigol yng Nghymru
Mae’r Gymdeithas Strôc yng Nghymru wedi croesawu cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething y bydd cronfa £15m yn cael ei chreu ar gyfer gofal critigol, ac wedi galw am rywfaint o hyn i gefnogi gwell ofal strôc yn yr ysbyty.
Mae gwasanaethau strôc wedi gwella yn y blynyddoedd diwethaf, ond mae mwy o le i ddatblygu. Yn y canlyniadau mwyaf diweddar, sgoriodd 5 allan o’r 12 uned strôc yng Nghymru gradd C neu’n llai. Mae perfformiad ar driniaethau pwysig, fel cyffuriau sy’n torri lawr clotiau, hefyd yn amrywio’n sylweddol rhwng ysbytai.
Mae’r Gymdeithas Strôc wedi galw ar ran o’r gronfa £15m i gefnogi ad-drefnu gwasanaethau acíwt yng Nghymru. Mae tystiolaeth yn dangos fod trefnu gwasanaethau i mewn i unedau arbenigol sy’n fwy o faint, yn gwella canlyniadau i gleifion. Mewn mannau lle mae gwasanaethau strôc wedi ad-drefnu fel hyn, gwelwyd gwelliannau mewn goroesiad strôc a lleihad yn yr amser yr oedd cleifion yn aros yn yr ysbyty.
Yn y Cynllun Cyflawni ar Gyfer Strôc 2017-20, mae Llywodraeth Cymru’n nodi’r angen i ail-ddiffinio gwasanaethau’n unol â’r model hyperacíwt hwn.
Dywedodd Matt O’Grady, Swyddog Polisi'r Gymdeithas Strôc yng Nghymru:
“Dyma gyfle euraidd i ddarparu’r gofal a thriniaeth o safon fyd-eang y mae goroeswyr strôc ledled Cymru yn haeddu. Mae strôc yn ddigwyddiad sy’n newid bywydau, ond gyda’r driniaeth a chefnogaeth orau, gallwn achub mwy o fywydau a helpu pobl i wneud yr adferiad gorau posib.
“Mae Llywodraeth Cymru eisiau gweld byrddau iechyd yn ad-drefnu eu gwasanaethau acíwt yn unol â’r model hyperacíwt. Er gall hyn olygu amser teithio hirach i rai pobl, mae’r dystiolaeth yn dangos bod eu cludo i safle fwy o faint, gyda gwell ofal arbenigol wir yn gweithio.
“Er hynny, mae nifer o rwystrau amrywiol rhag gwella gwasanaethau acíwt yng Nghymru. Gall peth o’r arian sydd wedi ei gyhoeddi gan yr Ysgrifennydd Iechyd fynd at wneud gwelliannau i rai o’r safleoedd hyperacíwt posib, neu’i gefnogi staffio a hyfforddi mewn rhai rhannau o Gymru.”