Press release -
Diwrnod o hwyl a sioe gŵn i gefnogi strôc.
Mae’r hyfforddwr cŵn Nikki Cantrill yn addo diwrnod o hwyl ac adloniant yn Sioe Gwn Powys K9. Trefnwyd y sioe er côf am ei thad a fu farw o strôc.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar 2 Medi, ar dir y busnes helpodd Tony Cantrill i’w ferch Nikki sefydlu.
Mae Nikki, a gollodd ei nain hefyd i strôc 18 mlynedd yn ôl, eisiau codi arian i helpu dynnu sylw at y ffyrdd o arbed strôc, a chefnogi’r rhai sydd wedi eu heffeithio ganddo.
Meddai Nikki:
“Byddem yn cynnal dosbarthiadau llawn hŵyl, fel y ci efo'r llygaid mwyaf trist, yr un efo'r gynffon mwyaf egnïol a’r un cyflymaf i fwyta selsigen! Bydd yna hefyd gemau i’r plant.
“Rydym eisiau dathlu bywyd fy nhad. Gwnaeth gymaint i gefnogi pawb, ac mae fy musnes wedi bod yn llwyddiant oherwydd ei gefnogaeth.
‘Bydda fo wastad yn y caeau yn chware gyda’r cŵn yn ein sioeau, felly mae hwn yn ffordd dda o’i gofio fo.’
Mae tua 7,400 o bobl yn cael strôc yng Nghymru pob blwyddyn, ac mae dros 66,000 yn byw gydag effeithiau strôc.
Ychwanegodd Nikki:
‘Cafodd fy nhad sawl strôc mini {TIA} o flaen llaw nad oeddem yn gwybod am ar y pryd. Roedd o yn yr ysbyty gyda haint feirws pan gafodd y strôc fawr. Mi gafodd o feddyginiaeth i'w helpu i symud , ond roedd ei allu i siarad a gweld wedi eu heffeithio, ac yna fe gafodd niwmonia.’
Dywedodd Bridget Stadden, Rheolwr Digwyddiadau Cymunedol a Chodi Arian I Gymru:
“Gall strôc ddigwydd i unrhyw un ar unrhyw adeg, ac mae’n troi bywyd ar ben ei waered. Gyda chefnogaeth codwyr arian fel Nikki, gallwn helpu mwy o oroeswyr strôc a’u teuluoedd wrth iddynt ail-adeiladu eu bywydau.
“Bydd yr arian sy’n cael ei godi hefyd yn mynd tuag at godi ymwybyddiaeth o arwyddion strôc ac arianu’r ffyrdd y gellid ei atal rhag ddigwydd.”
Bydd diwrnod hwyl i’r teulu a sioe gŵn Powys K9 yn cychwyn o 12 yp ddydd Sul ,Medi 2 ail yn Llansanffraid, SY22 6SY.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a’r Gymdeithas Strôc yng Nghymru ar 02920 524400 neu e-bostiwch fundraisingwales@stroke.org.uk